Maes B
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ystyried gosod Maes B ar y prif faes, a chynnal gigs llai o faint ar y maes pebyll.
Ar hyn o bryd maen nhw’n cynnal grwpiau ffocws ac arolwg ar-lein yn holi barn pobol ifanc am y drefn bresennol o gynnal Maes B mewn lleoliad ar wahân.
Yn y gorffennol roedd gan y Brifwyl Babell Roc ar y Maes, ac maen nhw’n ystyried creu lleoliad arbennig ar gyfer pobl ifanc ar y Maes unwaith eto.
Yn ystod y blynyddoedd diwetha’ daeth gigs awyr agore ger y bariau cwrw yn hynod boblogaidd ar y Maes.
Eisiau gwella’r ddarpariaeth
Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Mae rôl yr Eisteddfod yn hyrwyddo a rhoi llwyfan i’r sîn bop Gymraeg yn eithriadol o bwysig i ni, ac i lawer o bobl ifanc, yr Eisteddfod yw’r tro cyntaf iddyn nhw fod i ffwrdd o gartref yn cael cyfle i fwynhau awyrgylch gŵyl go iawn.
“Ein bwriad wrth gynnal yr adolygiad hwn yw edrych ar sut y gallwn wella’r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc yn yr Eisteddfod dros y blynyddoedd nesaf. Mae peth amser wedi pasio ers i ni drafod hyn yn y fath fanylder, ac mae anghenion a dyheadau pobl ifanc wedi datblygu a newid llawer yn ystod y cyfnod hwn. Rydym yn awyddus i glywed barn ein cynulleidfa a’n marchnad darged er mwyn ein galluogi i deilwra’r ddarpariaeth orau bosibl ar eu cyfer yn y dyfodol.”
Bydd y cyfle i lenwi’r holiadur ar-lein yn dod i ben dair wythnos i heddiw, ac mae modd ei weld drwy fynd i wefan yr Eisteddfod.