Gwesty'r Harbourmaster, Aberaeron
Mae 23 o dafarnau Cymru wed cael eu henwi ar restr Michelin o’r tafarnau gorau ym Mhrydain i fwyta allan ynddyn nhw.

Mae’r mwyafrif o’r rhain yn y siroedd sy’n ffinio â Lloegr – chwech ym Mhowys, tair yn Sir Fynwy, a dwy yr un yn siroedd Wrecsam a Fflint. Mae dwy ohonyn nhw yn y Gelli Gandryll yn unig, lleoliad yr wyl lenyddol enwog.

Mae hyn yn cymharu â chyfanswm o bedair tafarn rhwng siroedd Môn, Gwynedd a Cheredigion – heb ddim un yn Sir Benfro.

Ymhlith y tafarnau mwyaf adnabyddus i gael eu cynnwys mae Gwesty’r Harbourmaster yn Aberaeron, sydd wedi ennill llawer o glod dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Y  rhestr yn llawn:
White Eagle, Rhoscolyn, Môn
New Conway, Caerdydd
Y Polyn, Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin
Harbourmaster, Aberaeron
Y Ffarmers, Llanfihangel-y-Creuddyn, Ceredigion
Pen-y-Bryn, Bae Colwyn, Conwy
Kinmel Arms, St George, Conwy
Groes Inn, Tyn-y-Groes, Conwy
Glasfryn, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Tavern, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Y Beuno, Clynnog-Fawr, Gwynedd
Raglan Arms, Llandenni, Sir y Fflint
White Hart, Llangybi, Sir Fynwy
Bell at Skenfrith, Ynysgynwraidd, Sir Fynwy
Felin Fach Griffin, Aberhonddu, Powys
Bear, Crughywel, Powys
Old Black Lion, Y Gelli Gandryll, Powys
Three Tuns, Y Gelli Gandryll, Powys
Harp Inn Old, Maesyfed, Powys
Talkhouse, Pontdolgoch, Powys
Blue Anchor Inn, Dwyrain Aberddawan, Bro Morgannwg
Pant-yr-Ochain Gresffordd, Wrecsam
Hand at Llanarmon, Llanarmon, Dyffryn Ceiriog, Wrecsam

Ludo’s, Castell Newydd Emlyn