Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Ar ddiwrnod dathlu penblwydd S4C yn 30 oed, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cynnig rhestr i Golwg360 o’i hoff raglenni drwy’r holl gyfnod.
Mae wedi dewis tair ffilm ddrama a dwy raglen chwaraeon.
Solomon a Gaenor
Stori am garwriaeth Iddew a Chymraes yw ‘Solomon & Gaenor’, a ddaeth i’r amlwg am y tro cyntaf yn 1999.
Ioan Gruffudd a Nia Roberts yw prif sêr y ffilm dairieithog (Saesneg, Cymraeg ac Yiddish), sy’n adrodd hanes eu carwriaeth yng Nghymru yn 1911.
Mae’n rhaid i Solomon guddio’r ffaith ei fod yn Iddew oddi wrth ei gariad, rhag ofn y bydd yn wynebu hiliaeth yn y gymdeithas. Yn y pen draw, mae terfysgoedd gwrth-Iddewig yn gwahanu’r cariadon, wrth i Solomon adael Cymru a’i gariad yn feichiog.
Hedd Wyn
Hanes y bardd o Drawsfynydd a enillodd y Gadair Ddu yn Eisteddfod Genedlaethol 1917.
Cafodd ei hysgrifennu gan Alan Llwyd ym 1992, ac mae’n adrodd hanes Ellis Humphrey Evans (Huw Garmon) yn cael ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi’i lleoli ym mro ei febyd yn Nhrawsfynydd, mae’n adrodd hanes ei garwriaeth gyda Jini (Judith Humphreys).
Derbyniodd y ffilm enwebiad Oscar am y Ffilm Dramor Orau, y tro cyntaf i ffilm Gymraeg dderbyn enwebiad o’r fath.
Yr Alcoholig Llon
Drama ddogfen am alcoholiaeth, sy’n dilyn y prif gymeriad, Alun (Dafydd Hywel), wrth iddo frwydro yn erbyn ei gaethiwed a’r problemau a ddaw yn sgil dirywiad y gymdeithas lofaol.
Mae drama Karl Francis yn mynd i’r afael â pherthynas y prif gymeriad â’i deulu, ei ffrindiau a’i gymuned.
Jonathan a’r Clwb Rygbi
Fel un o gefnogwyr rygbi amlycaf Cymru, dydy’r ffaith fod dwy raglen am y gamp ar restr Carwyn Jones ddim yn syndod.
Rhaglen gomedi yw ‘Jonathan’ yn y bôn, ac mae’r criw cyflwyno, sy’n cynnwys Jonathan Davies, Rowland Phillips, Nigel Owens, Eleri Siôn a Sarra Elgan, yn cyfuno i greu rhaglen sy’n gwneud tipyn mwy na thrafod rygbi.
‘Y Clwb Rygbi’ yw un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, a hon sy’n cwblhau rhestr y Prif Weinidog.
Enillodd y rhaglen wobr BAFTA Cymru am y Rhaglen Fyw/Darlledu Awyr Agored orau ym 1999, y flwyddyn y cynhaliodd Cymru Gwpan Rygbi’r Byd, a 2005, blwyddyn y Gamp Lawn.