Efrog Newydd pan oedd Corwynt Sandy ar ei anterth ddydd Llun (llun PA)
Mae plant ac athrawon o Gaerfyrddin wedi cyrraedd yn ôl i Gymru ar ôl cael eu dal am dri diwrnod gan Gorwynt Sandy yn Efrog Newydd.
Fe wnaethon nhw hedfan dros nos neithiwr ar yr awyren gyntaf i adael Efrog Newydd wedi’r corwynt.
“Fe gwason ni daith gwbl ddiffwdan unwaith y cyrhaeddon ni’r maes awyr,” meddai Euryn Madoc Jones, dirprwy brifathro Ysgol Bro Myrddin, wrth deithio’n ôl o Lundain i Gaerfyrddin ar y bws.
“Fe gymerodd hi bedair awr i deithio o’r gwesty yng nghanol Efrog Newydd i faes awyr JFK. Roedd hyn oherwydd fod yr hewlydd mor llawn trwy nad oedd trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn y ddinas.
“Ond roedd y maes awyr yn hollol wag, felly aeth popeth yn rhwydd iawn wedyn.”
Osgoi’r gwaethaf
Dywedodd eu bod wedi osgoi gwaethaf y corwynt yn y gwesty lle’r oedden nhw’n aros.
“Roedden ni yng nghanol y ddinas, yn 45th Street lle’r oedd yr adeiladau mawr yn eich cysgodi rhag y gwynt,” meddai. “Felly fe allech chi sefyll y tu allan i’r gwesty heb brin wybod bod yna storm. Ond petaech chi’n mentro i ben draw’r stryd at 8th Avenue mae’n siwr y byddech chi’n cael eich chwythu ymaith.”
Felly, er mwyn diogelwch, fe fu’n rhaid i bawb aros y gwesty o fore Llun ymlaen.
“Fe gyrhaeddon ni Efrog Newydd nos Sul, a chan fod rhybuddion fod storm anferth ar ei ffordd y diwrnod wedyn, fe aethon ni i weld Times Square nos Sul gan nad oedd yn debygol y byddai cyfle arall.
“Roedd gorfod aros yn y gwesty’n amlwg yn siom inni i gyd, ar ôl edrych ymlaen cymaint at ryfeddodau Efrog Newydd, ond fe gadwodd pawb eu hysbryd, Roedden ni’n ffodus ein bod ni eisoes wedi gweld Washington a Philadelphia yr wythnos ddiwethaf.
“Roedden ni’n ffodus hefyd na fu unrhyw doriadau trydan lle buon ni’n aros – dim ond o 32nd Street i lawr y diffoddwyd y pwer – felly roedd y plant yn gallu dilyn yr hanes i gyd ar CNN.
“Eto i gyd, roedd yn agoriad llygad i bawb ohonon ni weld graddau’r difrod wrth deithio ar y bws trwy Queens yng nghanol y tywyllwch neithiwr.”
Ychwanegodd fod pawb o’r plant wedi gallu cadw mewn cysylltiad â’u rheini i dawelu eu hofnau.
“Mae gan bawb o’r plant ffonau symudol – rhai gwell na sydd gan yr athrawon gan amlaf – a chafwyd dim trafferthion efo’r rhwydwaith.”