Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood
Wrth longyfarch S4C ar ei phenblwydd yn 30 oed heddiw, mae arweinydd Plaid Cymru’n clodfori cyfraniad ‘allweddol’ Gwynfor Evans at sefydlu’r sianel.
Roedd cyn-lywydd Plaid Cymru wedi bygwth ymprydio i farwolaeth yn 1980 ar ôl i lywodraeth Geidwadol y dydd gefnu ar addewid i sefydlu sianel Gymraeg.
“Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn teimlo ymlyniad arbennig at S4C am mai gweithred ein cyn-Lywydd Gwynfor Evans oedd yn allweddol yn sicrhau ei bodolaeth,” meddai Leanne Wood.
“Dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf, bu cyfraniad y sianel i fywyd Cymru ac i hybu’r iaith yn enfawr.
“Mae’n arbennig o werthfawr mewn teuluoedd lle nad yw’r Gymraeg yn iaith gyntaf – roedd Cyw yn ffefryn mawr yn fy nghartref i gan ei fod yn rhoi cyfle i mi wylio rhaglenni Cymraeg gyda fy merch.
“Bu S4C yn ganolbwynt hynod o bwysig i dreftadaeth Cymru dros ddeng mlynedd ar hugain ei hoes, ac yr wyf i’n edrych ymlaen at y deng mlynedd ar hugain nesaf!”