Catherine Gowning (llun Heddlu Gogledd Cymru)
Mae’r timau sy’n chwilio am y milfeddyg Catherine Gowning yn Sir y Fflint wedi cael hyd i gorff.

Cafodd Catherine Gowning, 37 oed, ei gweld ddiwethaf nos Wener 12 Hydref mewn archfarchnad ger ei chartref yn New Brighton ar lannau Dyfrdwy.

Mae Clive Sharpe, dyn 46 oed o Wynedd, wedi cael ei gyhuddo o’i llofruddio.

Er bod yr heddlu’n gwrthod cadarnhau hynny, mae’n ymddangos bron yn sicr mai corff Catherine Gowning sydd wedi cael ei ddarganfod.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru:

“Yn dilyn gwybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd, mae’r tîm o chwilwyr wedi canolbwyntio ar gaeau yn Manor Road, Sealand. Ddoe, fe wnaeth swyddogion o’r tîm chwilio ddarganfod gweddillion dynol mewn pwll bas o fewn y cae sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘the Lum’.

“Nid yw’r gweddillion wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol eto, ac fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei wneud yn hwyrach heddiw.

“Mae teulu Catherine Gowing wedi cael gwybod am y datblygiad trist yma ac rydan ni’n amlwg yn meddwl amdanyn nhw ar yr adeg anodd yma.

“Gofynnwn am iddyn nhw gael llonydd i ddygymod â’r newyddion.”