Llys y Goron Caerdydd
Mae’r Arglwydd Brif Ustus wedi gwrthod apeliadau gan ddau ddyn a gafwyd yn euog mewn achosion o lofruddiaethau erchyll yng Nghymru.

Cafodd y gweithiwr fferm John Cooper ei garcharu am oes yn gynharach eleni ar ôl i lys ei gael yn euog o ddwy lofruddiaeth ddwbl yn Sir Benfro yn yr 1980au.

Cafodd John Pope ei garcharu ar ôl ail dreial am lofruddio Karen Skipper, y cafwyd hyd i’w chorff yn afon Elai yn ardal Fairwater o Gaerdydd yn 1996. Roedd y Llys Apêl wedi dileu ei ddedfryd yn 2009, ond fe’i cafwyd yn euog mewn ail dreial y llynedd.

Wrth wrthod ei apêl, dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Judge, yn Llys y Goron Caerdydd ei fod wedi cyhoeddi dogfen 11 tudalen yn amlinellu’r achos a’i resymau dros wrthod.

Yn achos Cooper, meddai’r Arglwydd Brif Ustus:

“Does dim amheuaeth fod y rheithgor wedi ystyried ei dystiolaeth yn ofalus cyn penderfynu bod ei euogrwydd wedi cael ei brofi.

“Cafodd y cais am hawl i apelio yn erbyn y ddedfryd ei wrthod gan farnwr ar ei ben ei hun. Rydym ni (y llys apêl) yn cytuno ag ef. Bydd y cais newydd hwn hefyd yn cael ei wrthod.”