Lee-Anna Shiers fu farw yn y tan
Fe fydd dynes 42 oed yn ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug y bore ma ar bedwar cyhuddiad o lofruddiaeth yn dilyn tân mewn fflat a laddodd pedwar aelod o’r un teulu.

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20, ei mab 15 mis oed Charlie, ei nai Bailey, 4, a’i nith Skye, 2, yn y tân ym Maes y Groes yn y dref ar 19 Hydref.

Fe lwyddodd diffoddwyr tân i achub Charlie a’i dad, Liam Timbrell, 23, o’u fflat ar y llawr cyntaf ond bu farw Charlie deuddydd ar ôl y tân ac mae ei dad yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae Melanie Jane Smith, 42, wedi ei chyhuddo o bedwar achos o lofruddiaeth, un achos o gynnau tân gyda’r bwriad o beryglu bywyd, a bygwth achosi difrod troseddol.

Roedd Smith, sy’n byw yn y fflat islaw’r teulu, wedi ymddangos yn Llys Ynadon Prestatyn ddoe. Dywedodd ei chyfreithiwr Chris Dawson ei bod yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn.

Cafodd Smith ei chadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug bore ma.