Gareth Thomas
Mae cyn gapten rygbi Cymru wedi cefnogi ymgyrch gan Undeb y Myfyrwyr sy’n dweud bod casineb yn cadw llawer o bobol ifanc hoyw rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.
Yn ôl yr arolwg gan yr NUS, roedd llawer o fyfyrwyr yn rhoi’r gorau i chwaraeon oherwydd eu hofn o agweddau pobol eraill.
“Mae agweddau wedi newid a dyma’r amser i chwaraeon ddechrau derbyn pobol sy’n hoyw yn yr un ffordd ag a wnaeth rhannau eraill o’r gymdeithas,” meddai Gareth Thomas.
Mae yna dair blynedd ers iddo yntau ddatgelu ei fod yn hoyw ac ers hynny mae wedi bod yn siarad tros hawliau hoyw ym myd chwaraeon.
Yn ôl yr Undeb, fe ddylai adnoddau, staff a chyd-chwaraewyr fod yn fwy parod i dderbyn pobol o bob tuedd rywiol.