Airbus 2-1 Y Seintiau Newydd

Mae Airbus wedi ymuno â’r ras tua brig y tabl yn dilyn buddugoliaeth dros y Seintiau Newydd ar y Maes Awyr nos Wener.

Cafodd y Seintiau sawl cyfle i fynd ar y blaen cyn i Chris Budrys daro i Airbus wedi hanner awr o chwarae. Cafwyd cyd chwarae da rhwng Lee Owens ac Wayne Riley ar y dde cyn i Budrys benio i gefn y rhwyd wrth y postyn agosaf.

Unionodd Aeron Edwards y sgôr yn fuan yn yr ail hanner yn dilyn pas dreiddgar Alex Darlington, ond roedd Airbus yn ôl ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner. Budrys oedd y sgoriwr unwaith eto, yn manteisio ar amddiffyn gwan y Seintiau i benio ei ail o’r gêm.

Cafodd Greg Draper gyfle gwych i unioni’r sgôr drachefn ond methodd a daliodd Airbus eu gafael tan y diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi Airbus i’r ail safle ac yn achosi i’r Seintiau lithro i bedwerydd yn y tabl, ond dim ond un pwynt sydd yn gwahanu’r pedwar uchaf.

(Torf – 453)

.

Gap Cei Connah 2-6 Bangor

Cafwyd gwledd o goliau yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Wener, ond yn anffodus i’r tîm cartref, yr ymwelwyr Bangor a gafodd y mwyafrif ohonynt.

Cei Connah, serch hynny, a gafodd y gyntaf wrth i Michael Robinson benio tafliad hir Rob Jones i gefn y rhwyd.

Unionodd Peter Hoy i Fangor yn fuan wedyn gyda pheniad o gic gornel, cyn i Chris Simm roi’r ymwelwyr ar y blaen yn dilyn pas dda Les Davies.

Roedd hi’n dair cyn yr egwyl wedi i Alan Hooley sgorio i’w rwyd ei hun a gwnaeth Davies hi’n bedair gyda hanner foli gadarn yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Gwnaeth Chris Jones hi’n bump cyn i Ricky Evans dderbyn cerdyn coch i Gei Connah. Ac ychwanegodd Davies ei ail ef a chweched Bangor cyn i Jamie Petrie rwydo gôl gysur hwyr i’r tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn codi Bangor i’r trydydd safle ond mae Gap Cei Connah yn disgyn i’r hanner gwaelod am y tro cyntaf y tymor hwn, maent bellach yn seithfed.

(Torf – 486)

.

Aberystwyth 1-0 Caerfyrddin

Aberystwyth aeth a hi yn y frwydr tua’r gwaelodion ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn. Un o chwaraewyr Caerfyrddin a sgoriodd unig gôl y gêm ond i’w rwyd ei hun y sgoriodd Craig Hanford wrth i Aber hawlio’r tri phwynt.

Daeth Scott Quigley a Liam McCreesh ill dau yn agos i Gaerfyrddin yn yr hanner cyntaf a bu rhaid i gôl-geidwad yr ymwelwyr, Steve Cann, fod yn effro i atal Declan Carroll rhag sgorio yn y pen arall.

Ychydig o gyfleoedd a gafwyd yn yr ail gyfnod ac roedd gôl Hanford i’w rwyd ei hun toc wedi’r awr yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Aber.

Mae’r fuddugoliaeth honno yn eu codi dros ben Caerfyrddin i’r degfed safle wrth i’r Hen Aur ddisgyn i safleoedd y gwymp.

(Torf – 352)

.

Lido Afan 2-4 Prestatyn

Prestatyn aeth a hi mewn gêm llawn goliau yn Stadiwm Marstons brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Andy Parkinson ddwywaith yn yr hanner cyntaf i roi mantais gyfforddus i Brestatyn ar yr egwyl. Mae’r ymosodwr bellach wedi sgorio deg gôl gynghrair y tymor hwn.

Ychwanegodd Jason Price drydedd yr ymwelwyr yn gynnar yn yr ail hanner ond tarodd Lido yn ôl gyda dwy gôl mewn deg munud gan Anthony Rawlings.

Ond diflannodd gobeithion y tîm ar y gwaelod i achub pwynt pan sgoriodd David Hayes bedwaredd Prestatyn funud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi Prestatyn yn ôl i frig yr Uwch Gynghrair tra mae Lido Afan yn aros ar waelod y tabl.

(Torf – 132)

.

Y Drenewydd 1-1 Bala

Cyfartal oedd hi yn y frwydr ganol y tabl rhwng y Drenewydd a’r Bala ar Barc Latham brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Luke Boundford y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond roedd y Bala’n gyfartal yn gynnar yn yr ail gyfnod wedi i amddiffynnwr y Drenewydd, Andy Jones, sgorio i’w rwyd ei hun.

Gorffennodd y Bala’r gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Stephen Brown chwarter awr o’r diwedd ond daliodd tîm Colin Caton eu gafael i sicrhau pwynt oddi cartref.

Mae’r canlyniad yn codi’r Bala ddau le i’r chweched safle tra mae’r Drenewydd yn aros yn nawfed.

(Torf – 240)

.

Llanelli 0-1 Port Talbot

Roedd gôl hwyr Daniel Thomas yn ddigon i gipio’r tri phwynt i Bort Talbot yng ngêm fyw Sgorio ar Stebonheath brynhawn Sadwrn.

Methodd Luke Bowen gic o’r smotyn i Lanelli yn yr hanner cyntaf a thalodd y tîm cartref yn ddrud am hynny funud o’r diwedd pan enillodd Thomas y gêm i’r ymwelwyr.

Mae’r canlyniad yn codi Port Talbot i’r pumed safle tra mae Llanelli yn llithro i wythfed.

(Torf – 158)