Mae trefnwyr Eisteddfod Powys wedi penderfynu bwrw ymlaen a chynnal Eisteddfod Powys ym Machynlleth dros y Sul er bod April Jones yn parhau ar goll.

Roeddyn nhw wedi ystyried canslo’r eisteddfod ond dywedodd rhieni’r ferch 5 oed sydd ar goll ers bron i fis, eu bod yn dymuno i’r ŵyl gael ei chynnal.

Bydd llwyfan yr eisteddfod yn hen gapel Y Tabernacl, sydd bellach yn oriel darluniau modern, yn cael ei addurno gyda blodau pinc o barch i April.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith, John Price bod y trefnwyr i gyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth teulu April.

“Rydyn ni wedi trafod cynnal yr eisteddfod efo sawl asiantaeth a’r cyngor yr ydan ni wedi ei gael ydi y bydd cynnal yr ŵyl yn gymorth i adfer rhyw fath o normaliaeth i’r ardal,”meddai.

Bydd yr eisteddfod yn cychwyn y bore yma gyda gorymdaith trwy’r dref o Eglwys St Pedr i’r ganolfan gymunedol.

Mae Eisteddfod Powys yn un o’r eisteddfodau rhanbarthol mwyaf yng Nghymru ac wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers 1820.

Yn y cyfamser, mae’r chwilio yn parhau am April aeth ar goll ar 1 Hydref.

Mae Mark Bridger o Ceinws yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o’i herwgipio a’i llofruddio.