Mae perchennog Wrecsam wedi gwadu honiadau papurau newydd fod y clwb yn wynebu mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Yn ôl adroddiadau yn y wasg roedd rhaid i’r clwb ddod o hyd i berchnogion newydd o fewn wythnos.
Yn ôl papur newydd y Daily Post roedd Geoff Moss wedi dweud wrth gefnogwyr y clwb bod rhaid iddynt wneud cynnig am y clwb er mwyn sicrhau ei ddyfodol.
Ond dywedodd y perchennog heddiw y bydd y clwb yn parhau i weithredu a bod pawb o fewn y clwb yn cefnogi ymgyrch y tîm i ennill dyrchafiad i Adran Dau Cynghrair Pêl Droed Lloegr.
Mae Geoff Moss wedi cadarnhau y byddai’n well ganddo ef ac Ian Roberts werthu’r clwb i gonsortiwm cefnogwyr, ond roedd am bwysleisio eu bod nhw’n croesawu trafodaethau gydag unrhyw un fyddai’n ennill parch y cefnogwyr.
“R’yn ni, fel pob clwb arall, yn gorfod talu cyflogau ac mae gennym ni gredydwr masnach a dyledwyr. Rydw i wedi cefnogi’r clwb yn ariannol bob mis,” meddai Geoff Moss.
“Yn dilyn protestio gan gefnogwyr ddydd Sadwrn, rwyf innau ac Ian yn deall bod y cefnogwyr eisiau ein gweld ni’n gadael y clwb ac r’yn ni am wneud hynny.
“Ond pan ydw i’n rhoi’r gorau’r i fy swydd yn gadeirydd fydda i ddim yn parhau i ariannu’r clwb.”
Dywedodd Geoff Moss bod y clwb yn ymwybodol fod Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam a’r fenyw busnes lleol Stephanie Booth yn ystyried prynu’r clwb.
Ond hyd yn hyn dim ond y Cynghorydd Phil Wynn, sy’n ceisio sefydlu consortiwm i brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam, sydd wedi cynnal trafodaethau gyda pherchnogion y clwb.
Mae Geoff Moss yn galw ar unrhyw grwpiau sydd â diddordeb mewn prynu Wrecsam i weithredu’n gyflym er mwyn sicrhau sefydlogrwydd i’r clwb.