Aaron Ramsey
Mae rheolwr Arsenal, Arsene Wenger, wedi cadarnhau y bydd Aaron Ramsey yn dychwelyd i’r clwb yn hytrach nag ymestyn ei gyfnod ar fenthyg gyda Chaerdydd.
Fe ymunodd y Cymro gyda’r Adar Glas ar gytundeb mis er mwyn cryfhau ei ffitrwydd ar ôl dychwelyd i chwarae wedi iddo dorri ei goes y llynedd.
Mae Ramsey heb chwarae i dîm cyntaf Arsenal ers treulio cyfnod ar fenthyg gyda Nottingham Forest.
Roedd rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi gobeithio ymestyn arhosiad Ramsey yn y brifddinas.
Dangosodd y chwaraewr canol cae ei ddoniau yn y crys glas unwaith eto gyda gôl yn erbyn Caerlŷr neithiwr.
Ond mae Wenger wedi dweud y bydd Ramsey yn dychwelyd i Arsenal ar ôl gêm Caerdydd yn erbyn Hull City ddydd Sadwrn.
“Mae Aaron ar fenthyg tan ddydd Sadwrn ac fe fydd yn dychwelyd ar ôl hynny,” meddai Arsene Wenger.
“Rwyf wedi cael adroddiadau da ‘nôl wrth Gaerdydd ac rwy’n bwriadu ei gynnwys. Fe allai fod ar gael ar gyfer y gêm ail chwarae yn erbyn Leyton Orient nos Fercher.
“Rwy’n credu y bydd yn chwarae i Gaerdydd ddydd Sadwrn ac fe fyddwn ni’n asesu sut y mae’n dod yn ei flaen. Fe fydd ar gael i Arsenal ar ôl hynny.”