Caerfaddon 2 – 2 Casnewydd

Fe sicrhaodd Casnewydd bwynt oddi cartref yn erbyn Dinas Caerfaddon gyda’u pedwaredd gêm gyfartal yn olynol ddoe.

Dechreuodd y gêm yn y modd gwaethaf posib i Gasnewydd pan fethodd eu golwr, Glyn Thompson, glirio’r bêl gan roi gôl ar blât i Scott Murray wedi naw munud.

Ond fe ymatebodd tîm Tim Harris yn gyflym gan unioni’r sgôr wyth munud yn ddiweddarach gyda gôl od arall.

Fe fethodd croesiad Darryl Knights  pawb yn y cwrt cosbi ac roedd amddiffyn Caerfaddon yn credu bod y bêl wedi mynd allan.

Ond fe groesodd Graeme Montgomery y bêl yn ôl mewn i’r cwrt cosbi ac fe darodd Yemi Odubabe y bêl i gefn y rhwyd.

Fe aeth Casnewydd ar y blaen wedi 21 munud pan sgoriodd Wayne Hatswell gôl wych gydag siot o 25 llath i gornel uchaf gôl Caerfaddon.

Ond fe darodd Caerfaddon yn ôl i unioni’r sgôr yn syth ar ôl ail ddechrau’r gêm ac roedd hynny’n ddigon i sicrhau gêm gyfartal.

Mae Casnewydd yn y seithfed safle yn Uwch Gynghrair Blue Square ar hyn o bryd – ond maen nhw wyth pwynt oddi ar safleoedd y gemau ail gyfle.