Dean Saunders
Wimbeldon 0 Wrecsam 1

Fe drawodd Wrecsam yn ôl wedi’u perfformiad trychinebus ddydd Sadwrn trwy guro’r tîm sydd ar frig Cynghrair y Blue Square.

Yn awr, mae’r rheolwr Dean Saunders yn dweud mai ei nod yntau yw ceisio ennill y teitl. “Ryden ni’n ôl yn ei chanol hi,” meddai.

Fe gollodd y Dreigiau 7-2 yn erbyn Gateshead ddydd Sadwrn diwethaf, ond fe ymatebodd y tîm yn dda i hynny ac i drafferthion busnes y clwb trwy guro Wimbledon oddi cartre’.

Er gwaetha’r fuddugoliaeth, mae Wimbledon wyth pwynt ar y blaen i Wrecsam ac mae gan ddau o’u cystadleuwyr agosa’ nifer fawr o gemau ar ôl.

Mae Crawley sy’n ail bum pwynt ar y blaen ar ôl chwarae pedair gêm yn llai ac mae gan Luton Town dair gêm wrth gefn a nhwthau un pwynt y tu ôl i’r Cymry.

Fe ddaeth unig gôl y gêm gan Mathias Pogba ar ôl iddo faeddu’r golwr gyda chwarter awr yn weddill. Roedd yr un chwaraewr wedi methu cyfle gwych ychydig ynghynt.

Sylwadau Saunders

“Rwy’n hapus iawn ein bod ni wedi taro’n ôl gyda’r perfformiad a’r fuddugoliaeth yma,” meddai Dean Saunders.

“Roedden ni wedi gwneud ymdrech fawr ac roedden ni’n haeddu ennill. Roedden ni wedi eu hatal nhw rhag chwarae”

“Roedd yr ymosodwyr wedi brwydro’n galed ac roedd y golwr a’r amddiffynwyr wedi chwarae’n dda.

“Ond mae’n rhaid cynnal momentwm. Ryden ni wedi codi i’r trydydd safle, ond dw i eisiau gorffen ar y brig. Mae’n rhaid i ni dargedu hynny.”