Mae un o gynghreiriau pêl-droed lleol enwocaf y gogledd yn cynnal cyfarfod brys nos Lun er mwyn trafod ei dyfodol.

Yn ôl cadeirydd Cynghrair Caernarfon a’r Cylch, John Pritchard, mae’r gostyngiad yn niferoedd y timau wedi peryglu ei dyfodol.

“Yn y tair blynedd diwethaf rydan ni wedi disgyn o 20 clwb i wyth.

“Mae hynna’n golygu 14 gêm gynghrair mewn tymor. Ar y rât yna byddwn ni wedi gorffen erbyn Nadolig.”

Ddoe cyhoeddodd clwb pêl-droed Llanbabo eu bod yn tynnu allan o’r gynghrair a dywed John Pritchard ei bod hi’n adeg anodd ar y clybiau yn ariannol.

“Dydy o ddim yn help i’r clybiau pan ‘dan ni’n gorfod talu dirwyon i’r Gymdeithas Bêl-droed am gardiau coch a phethau felly.”

Yn ddiweddar cafodd Llanbabo ddirwy am nad oedd llinellau’r cae pêl-droed wedi eu paentio yn syth.

Mae cynghrair Caernarfon a’r cylch yn rhan o sistem byramid sy’n bwydo Cynghrair Gwynedd, a dywed John Roberts fod clwb yn dringo o gynghrair Caernarfon a’r cylch bob blwyddyn “ond mae wyth neu naw mlynedd ers i glwb ddisgyn lawr i’r gynghrair.”

Mae’r cyfarfod brys i drafod dyfodol y gynghrair yn cael ei gynnal nos Lun yng nghlwb Mountain Rangers, Rhosgadfan.