Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd wedi rhoi ei gefnogaeth i’r ymgeisydd Llafur yn etholiad comisiynydd heddlu gogledd Cymru.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas mai Tal Michael yw’r “unig ymgeisydd credadwy sydd â’r profiad perthnasol er mwyn cynrychioli’r cyhoedd ar draws gogledd Cymru a dwi’n rhoi fy nghefnogaeth lawn iddo.”

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Dafydd Elis-Thomas, sydd yn y siambr brynhawn yma, ei fod yn rhoi ei gefnogaeth i Tal Michael, mab Prif Ysgrifennydd cyntaf Cymru, Alun Michael.

Mae Plaid Cymru wedi gwrthod cynnig ymgeiswyr i etholiadau comisiynwyr yr heddlu ar Dachwedd 15.

Mae cyd-aelod Dafydd Elis-Thomas yn Nwyfor Meirionnydd a llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan ar gyfiawnder, Elfyn Llwyd, wedi dadlau yn chwyrn yn erbyn y swyddi am eu bod yn “dod â gwleidyddiaeth i mewn i waith yr heddlu.”

Dros yr haf gwadodd Dafydd Elis-Thomas fod unrhyw wirionedd i’r sïon ei fod am adael Plaid Cymru a’i fod yn closio at y Blaid Lafur.

“Dw i’n Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd ac mae fy nheyrngarwch i i’r bobol wnaeth fy ethol,” meddai ym mis Gorffennaf.

Is-etholiad De Caerdydd a Phenarth

Yn dilyn ymddiswyddiad yr Aelod Seneddol Alun Michael ddoe er mwyn medru bod yn ymgeisydd ar gyfer swydd comisiynydd heddlu de Cymru, bydd is-etholiad yn cael ei gynnal yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth.

Mae Llafur Cymru wedi cyhoeddi mai Stephen Doughty fydd eu hymgeisydd nhw, a bydd yr is-etholiad ar Dachwedd 15, yr un diwrnod ag etholiadau’r heddlu.