Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn cwestiwn brys yn y Senedd brynhawn yma wrth i’r pwysau barhau ar y llywodraeth dros y modd y mae’n delio gyda mater Awema.

Mae disgwyl i Aelod Cynulliad gorllewin de Cymru, Peter Black, ofyn i Arweinydd y Tŷ Jane Hutt am yr hyn y mae’r Llywodraeth yn mynd i wneud mewn ymateb i adroddiad beirniadol am berthynas y llywodraeth gydag elusen leiafrifoedd Awema, a ddaeth i ben eleni.

Mae cais y Democratiaid Rhyddfrydol am ddadl ar lawr y Senedd ar Awema wedi cael ei wrthod.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru dros £7 miliwn i Awema rhwng 2000 a 2011 ac mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud fod rheolaeth Llywodraeth Cymru o arian grant Awema “yn wan”

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod Awema yn “bwnc pwysig” i’r Cynulliad.

“Fel sefydliad sy’n ceisio datblygu system seneddol go iawn fe allai methiant y llywodraeth i ateb cwestiynau i aelodau gael effaith niweidiol ar ein gallu i alw’r sefydliad yma yn senedd go iawn,” meddai Kirsty Williams.

‘Gweinidogion pantomeim’

Mae’r Ceidwadwyr wedi ymosod yn chwyrn ar “ddistawrwydd” y Llywodraeth.

“Tra bod y gweinidogion pantomeim yng Nghaerdydd yn hapus i godi twrw am benderfyniadau anodd llywodraeth Prydain maen nhw’n cloi eu drysau ac yn osgoi sylw ar faterion sy’n codi cwestiynau am eu gallu nhw i arwain,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr.

“Mae angen i’r Prif Weinidog ddweud sori am y llanast yma a gwarantu na fydd hyn yn digwydd eto,” meddai.