Catherine Gowing
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo heno o lofruddio’r milfeddyg Catherine Gowing a ddiflannodd wythnos yn ôl.
Roedd Catherine Gowing, 37, wedi methu dychwelyd i’w gwaith ym milfeddygfa Evans yn yr Wyddgrug, ddydd Llun.
Fe fydd Clive Sharpe, 46, o Fethesda yng Ngwynedd yn mynd gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug yfory.
Yn gynharach heddiw, dywedodd yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i gar Catherine Gowing oedd wedi ei losgi, ger chwarel yn Alltami, tua dwy filltir o’i chartref yn New Brighton, Sir y Fflint.
Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio unwaith eto am wybodaeth. Mae timau arbenigol yn parhau i chwilio am gorff Catherine Gowing.
Mae teulu Catherine, sy’n dod o Iwerddon yn wreiddiol, wedi teithio i ogledd Cymru i helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad.