Daeth mwy na 2,800 o ymatebion i law yn ystod ymgynghoriad 12 wythnos ar Fil Trawsblannu Dynol (Cymru) drafft Llywodraeth Cymru.
Nod y Bil yw cyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau a meinweoedd yng Nghymru ac arbed rhagor o fywydau drwy gynyddu nifer yr organau sydd ar gael i’w trawsblannu.
Mae’r ddeddf wedi bod yn destun trafod gyda rhai’n dadlau na ddylid newid y drefn bresennol o gymryd organau ond pan mae unigolyn wedi gofyn i hynny ddigwydd.
Gofynnodd arolwg y Llywodraeth a oedd preswylwyr yng Nghymru o blaid neu yn erbyn newid i system optio allan, neu a oedd angen rhagor o amser arnynt i benderfynu. Yn ôl y canlyniadau roedd 49% o blaid newid i system optio allan, 22% yn erbyn, 21% am gael rhagor o wybodaeth, a 8% ddim yn siŵr.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths: “Mae rhoi organau yn arbed bywydau ac rydyn ni o’r farn y bydd deddfwriaeth newydd yn golygu cynnydd o 25 y cant yn y cyfraddau rhoi organau. Rydym wedi ymgynghori’n eang ar hyn.
“Rwy’n hynod falch bod cynifer o bobl wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn ar ddarn o ddeddfwriaeth mor bwysig, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl ymatebwyr am eu cyfraniadau.
“ Yn ogystal â barn benodedig y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad, rwyf hefyd yn awyddus i wrando ar ystod ehangach o safbwyntiau pobl ar y pwnc, i lywio ac ategu ein hymrwymiad i gyfathrebu da. Felly, rydyn ni wedi cynnal arolwg o agweddau pobl yng Nghymru tuag at roi organau, sy’n dangos cefnogaeth dda i’r newid i system o optio allan.
“Mae pawb yn gwybod bod rhoi organau’n arbed ac yn gwella bywydau. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ein helpu ni i fireinio Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) ymhellach. Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r Bil gerbron y Cynulliad cyn diwedd y flwyddyn.”