Y stori yn cael ei thorri yn Golwg wsos yma
Mi fydd y Loteri yn edrych eto ar eu penderfyniad i wrthod grant o £4,000 i bapur bro, am nad oedd yn gyhoeddiad dwyieithog.

Roedd  trefnydd busnes  papur Y Gloran yn y Rhondda wedi cael llythyr yn esbonio mai dim ond prosiectau dwyieithog sy’n cael arian gan  Gronfa’r Loteri Fawr.

“Dw i’n methu’n lân â deall y penderfyniad hwn gan fod y papurau bro yn chwarae rhan bwysig yn strategaeth iaith y Llywodraeth,” meddai Cennard Davies.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud ei bod “yn briodol” rhoi grant i fudiad sydd wedi ei sefydlu i “hyrwyddo, hwyluso a defnyddio’r Gymraeg”.

A bellach mae awdurdodau’r Loteri yn edrych eto ar y sefyllfa gan ddiolch i gylchgrawn Golwg am dynnu eu sylw at y mater.

Meddai llefarydd ar ran y Gronfa Loteri Fawr: “Rydym ni’n ddiolchgar iawn i chi am ddwyn hwn at ein sylw ac yn falch iawn o gael adborth. Mi fyddwn ni nawr yn adolygu’r sefyllfa ac yn trafod sut y byddwn ni’n symud ymlaen gyda’n cynllun iaith Gymraeg yn y dyfodol.”

Y stori arbennig yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon