Chris Bryant
Mae Aelod Seneddol y Rhondda yn un o 27 aelod o Dŷ’r Cyffredin sy’n hawlio arian am fyw yn Llundain ond hefyd yn rhentu eiddo allan yn y ddinas.

Mae papur y Daily Telegraph heddiw’n adrodd bod aelodau megis Chris Bryant a’r cyn-ysgrifennydd amddiffyn Liam Fox yn derbyn hyd at £20,000 mewn treuliau lletya tra’n derbyn incwm hefyd drwy rentu eiddo arall.

Nid yw’r arfer yn erbyn y rheolau ond mae’n debyg o ychwanegu at bryder fod Aelodau Seneddol yn elwa ar dreuliau Tŷ’r Cyffredin.

Dywedodd llefarydd ar ran Aelod Seneddol y Rhondda wrth golwg360 fod “Chris ddim yn rhentu eiddo i Aelod Seneddol arall na chwaith yn rhentu fflat gan aelod arall”.

Yn ôl yr Awdurdod Annibynnol ar Safonau Seneddol mae o leiaf pedwar AS yn rhentu eiddo i, neu gan, AS arall, sy’n caniatáu aelodau seneddol i adeiladu portffolio tai ar gefn y trethdalwyr.

Nid dyma’r tro cyntaf i Chris Bryant gael ei gysylltu gyda’r helynt treuliau.

Yn 2004 cafodd ei gais am £58,000 i ail-addurno ei dŷ yn Y Porth ei wrthod, ac yn 2005 fe brynodd a gwerthodd dŷ yn Llundain, am elw, gan hawlio’r biliau a llog morgais ar ei dreuliau fel aelod seneddol.

Llefarydd Tŷ’r Cyffredin

Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, wedi cael ei gyhuddo heddiw o geisio atal manylion am dreuliau aelodau seneddol ar ôl iddo ddweud wrth yr Awdurdod Safonau y byddai datgelu enwau landlordiaid ASau yn “risg diogelwch.”

Byddai’r wybodaeth wedi datgelu pa aelodau seneddol sy’n rhentu i’w cyd-aelodau ar y meinciau.

Roedd yr Awdurdod Safonau wedi cael cais rhyddid gwybodaeth i ddatgelu’r manylion heddiw, ond mae’r broses wedi cael ei hatal yn dilyn ymyrraeth John Bercow.