Y car Renault oedd ar goll
Mae’r heddlu sy’n chwilio am filfeddyg yn ymchwilio wedi dod o hyd i’w char wedi ei losgi.

Bu plismyn yn chwilio am Catherine Gowing, 37, ers iddi feth â dod i’w gwaith yn Yr Wyddgrug ddydd Llun.

Heddiw mae Heddlu’r Gogledd wedi bod yn gwneud profion fforesnig ar gar Renault Clio pum drws oedd yn cyd-fynd â disgrifiad o gerbyd Ms Gowing.

Mae dyn 46 oed o Wynedd yn parhau yn y ddalfa wedi iddo gael ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio nos Fawrth.

Meddai’r Ditectif Uwcharolygydd John Hanson: “Yn dilyn apêl am wybodaeth ynghylch lleoliad Renault Clio Catherine Gowing, tua 7.15 yr hwyr ddoe mi gysylltodd aelod o’r cyhoedd i ddweud bod car wedi’i losgi yn Pinfold Lane, Alltami, ger Yr Wyddgrug.

Mae profion fforensig wedi dangos mai’r milfeddyg biau’r car, a gafodd ei ddarganfod rhyw ddwy filltir o gartref Ms Gowing yn Sir y Fflint.

Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth ffonio Heddlu’r Gogledd ar 101.