Mae cwmni o Gymru wedi denu sylw’r byd llyfrau ar ôl cyhoeddi fersiwn rhyngweithiol o’r Kama Sutra, yn ôl cylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Fe greodd Xcite Press – sy’n wasgnod o Accent Press o Feddllwynog ger Merthyr – stŵr yn Ffair Lyfrau Frankfurt yr wythnos ddiwetha’, lle’r oedden nhw’n ceisio dod o hyd i brynwyr i hawliau’r llyfr.

Fe fydd Xcite Press – sydd wedi ennill y wobr am y cwmni llyfrau erotig gorau am dair blynedd – yn cyhoeddi’r fersiwn Brydeinig fis Rhagfyr. Mae’n cael ei ddisgrifio fel “a sexual position guide with 3D hologram illustrations”.

Kama Sutra ar iPhone ac iPad

Fe all pobol bori trwy’r llyfr ar App ar eu ffonau smart neu iPad er mwyn gweld y modelau yn dod yn fyw mewn 3D.

Mae posib trin a throi’r llun i archwilio’r ystumiau o bob ongl, a newid gwedd a lliw gwallt y modelau i greu’r partner rhyw delfrydol – beth am farf fel y dyn yn y llyfr poblogaidd o’r 1970au?

“Mae yna alw mawr am y math yma o lyfrau. Roedden ni yn meddwl y base’n dda mynd ag e ychydig ymhellach a defnyddio’r dechnoleg fodern sydd ar gael gyda realaeth estynedig (augmented reality),” meddai Hazel Cushion, a sefydlodd Accent Press yn 2003 ar ôl astudio yng Nghoeg y Drindod, Caerfyrddin.

“Mae’n llyfr defnyddiol yn yr ystyr ei fod yn helpu pobol i ddeall gwahanol ystumiau ac yn rhoi bach o fywyd i berthnasau ac ati, ond mae hefyd yn defnyddio technoleg fodern i’n diddanu ni.

“Y peth clyfar gyda hwn – yn y lluniau yn y llyfr, mae’r modelau yn gwisgo dillad isa’, ond o edrych arno drwy’r camera, maen nhw’n noethlymun.”

Ymateb ffantastig

Fe gafodd Xcite press “ymateb ffantastig” yn ystod Ffair Lyfrau Frankfurt. Yn ddiweddar.

“Fe gawson ni ddigon o ddiddordeb o rai parthau,” meddai Hazel Cushion.

“Yn bendant yn America. Mi fydd yn cael ei gyhoeddi draw fanno, heb os. Ac roedd hefyd diddordeb o ran hawliau cyfieithu.”

Mae hi’n amser da iawn i fod yn y busnes llyfrau erotig oherwydd y diddordeb a grewyd gan nofel fasweddus EL James, 50 Shades of Grey, yn ôl Xcite Press.

“Mae yna ddiddordeb enfawr. Mae pethau wedi dod yn fwy derbyniol yng nghymdeithas erbyn hyn.”

Non Tudur