Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Prydain i brofi meddygon yn flynyddol i wneud yn siwr eu bod nhw’n ddilys i weithio.
Bydd Jeremy Junt, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn cyhoeddi’r cynllun heddiw wedi degawd a mwy o drafod y mater.
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol fydd yn gwneud y profion ar sail asesiadau ac adborth gan gleifion, a bydd yn dechrau ym mis Rhagfyr eleni.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru ei bod hi’n falch fod y cynllun dilysu meddygon am ddechrau yng Nghymru.
“Ers amser hir mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Iechyd Cymru, Deoniaeth Cymru, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y BMA a’r Cynghorau Iechyd Cymunedol i wneud yn siwr y bydd ail-ddilysu meddygon yn cefnogi datblygiad proffesiynol meddygon, ac yn cyfrannu at wella ansawdd a diogelwch cleifion,” meddai Lesley Griffiths.
Mae’r BMA, sy’n cynrychioli meddygon, wedi croesawu’r egwyddor o sicrhau bod meddygon yn gallu gwneud eu gwaith, ond wedi mynegi pryder y bydd hyn yn arwain at fwy o fiwrocratiaeth.