John Griffiths
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cwyno nad ydy’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y drefn gynllunio, yn fodlon dod i drafod eu pryderon am effaith codi miloedd o dai ar y Gymraeg.

Mewn llythyr mae swyddogion John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaladwy o fewn Llywodraeth Cymru, wedi dweud ei fod yn rhy brysur i gyfarfod y mudiad iaith “oherwydd bod ei ddyddiadur yn llawn ar hyn o bryd”.

Mae’r Gymdeithas eisiau trafod effaith newidiadau i’r drefn gynllunio ar yr iaith Gymraeg – maen nhw’n poeni y bydd y drefn newydd yn ffafrio codi tai ar draul buddiannau cymunedol fel yr iaith.

Meddai Toni Schiavone: “Mae’r Gymdeithas wedi cyfarfod gyda Leighton Andrews sawl gwaith ers iddo gymryd cyfrifoldeb dros y Gymraeg, yn ogystal â chwrdd â Carwyn Jones, ond mae gan adrannau eraill o’r Llywodraeth gyfrifoldeb dros y Gymraeg hefyd. Mae angen i’r Gymraeg cael ei brif-ffrydio fel pwnc ym mhob adran, yn enwedig y maes cynllunio, fel sy’n cael ei amlinellu yn strategaeth iaith y Llywodraeth. Ni allwn ni fforddio i barhau gyda pholisïau cynllunio sy’n trin y Gymraeg fel mater ymylol.”

Ymateb  Llywodraeth Cymru:

“Rydym wrthi’n paratoi Nodyn Cyngor Technegol 20 – Cynllunio a’r Iaith Gymraeg a’r gobaith yw ei gwblhau cyn y Nadolig. Bydd y TAN yn egluro sut y caiff awdurdodau cynllunio lleol ddefnyddio eu pwerau cynllunio i gefnogi’r iaith Gymraeg, yn enwedig wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. Rydym yn ddiolchgar i bawb, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, am eu hadborth ar fersiwn gynharach o’r TAN. Fe wnaethom ystyried yr holl ymatebion a ddaeth i law cyn dechrau paratoi’r cyngor.”