Nick Griffin
Mae arweinydd plaid asgell dde eithafol y BNP yn dweud bod angen gwrthwynebu cyfraith sy’n gwahardd busnesau rhag gwahaniaethu yn erbyn pobol hoyw.

Yn ôl Nick Griffin, mae’r cyfan yn rhan o “gynllwyn” gan yr “elît Rhyddfrydol” i “bardduo Cristonogaeth” ond mae wedi cael ei holi gan yr heddlu ar ôl cwynion ei fod wedi cyhoeddi neges fygythiol.

Mewn cyfweliad ar Radio Wales, fe fynnodd Nick Griffin, sy’n byw ym Mhowys, fod gan berchnogion gwely a brecwast hawl i wrthod rhoi stafell i bobol hoyw.

“Mae ganddyn nhw hawl i benderfynu pwy sy’n dod i mewn i’w cartref,” meddai. “Mae hon yn gyfraith wael, mae angen ei dyffeio hi ac mae angen ei newid.”

Holi gan yr heddlu

Fe gyfaddefodd Nick Griffin fod Heddlu Dyfed-Powys wedi ei holi’n hwyr neithiwr ar ôl iddo gyhoeddi neges trydar yn datgelu cyfeiriad preifat dau ddyn hoyw a enillodd achos llys yn erbyn busnes gwely a brecwast yn Berkshire.

Roedd y neges hefyd yn awgrymu y byddai cefnogwyr ‘British Justice’ yn dod yno – i ardal Huntingdon yn Swydd Caergrawnt – i greu “drama”.

Ar y radio, fe wadodd Nick Griffin fod hynny o anghenraid yn golygu protest y tu allan i gartre’r ddau ddyn, ond wnaeth e ddim esbonio chwaith pam ei fod wedi cyhoeddi eu manylion.