Nick Griffin
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n rhan o ymchwiliad i gwynion fod arweinydd y BNP, Nick Griffin, wedi anfon neges drydar fygythiol.

Fe ddaeth nifer o gwynion ar ôl i’r Aelod o Senedd Ewrop sy’n byw ym Mhowys alw am brotest yn erbyn dau ddyn hoyw a enillodd achos llys yn erbyn perchnogion gwely a brecwast a wrthododd roi llofft iddyn nhw.

Ar ei neges trydar, fe gyhoeddodd Nick Griffin gyfeiriad y ddau ac awgrymu y byddai tîm o ‘British Justice’ yn galw heibio i achosi ychydig o ‘ddrama’.

Gwrthod stafell ddwbl

Heddlu Swydd Caergrawnt sy’n arwain yr ymchwiliad ac maen nhw’n dweud eu bod hefyd wedi galw heibio i’r ddau, Michael Black, 64, a John Morgan, 59, sy’n byw yn ardal Brampton ger Huntingdon.

Yr wythnos yma, fe enillon nhw achos am wahaniaethu annheg yn erbyn perchnogion y llety gwely a brecwast yn Berkshire a oedd wedi gwrthod rhoi stafell ddwbl i’r ddau ddyn hoyw “am resymau crefyddol”.

Yn ôl Heddlu Swydd Caergrawnt, maen nhw’n cydweithio gyda Heddlu Dyfed Powys.