Catherine Gowing (llun trwy law'r heddlu)
Mae’r chwilio’n parhau am y milfeddyg ifanc o’r Wyddgrug sydd ar goll ers bron wythnos.

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n awyddus i ddod o hyd i gar Renault Clio o liw porffor sydd heb ei weld ers i Catherine Gowing ddiflannu nos Wener ddiwetha’.

Mae dyn 46 oed o Wynedd yn cael ei holi gan yr heddlu ar hyn o bryd ond fe allen nhw orfod gofyn am ragor o amser i’w holi.

Mae’r Ditectif Uwcharolygydd John Hanson wedi pwysleisio mai ymchwiliad llofruddiaeth yw hwn.

Diflannu wythnos yn ôl

Mewn cynhadledd i’r wasg, fe ddywedodd Heddlu Gogledd Cymru, fod Catherine Gowing wedi cael ei gweld ddiwetha’ am 8.39 nos Wener y tu allan i archfarchnad yn Queensferry.

Ond roedd hi wedi ceisio anfon neges testun o’i ffôn symudol ar ôl hynny, a hynny at nyrs oedd yn gweithio yn yr un practis milfeddygol â hi yn yr Wyddgrug.

Fe ddywedodd pennaeth y practis, David Evans, fod Catherine Gowing yn berson annwyl oedd yn boblogaidd gyda staff a chwsmeriaid fel ei gilydd.

Ac mae ei chwaer, Emma, wedi apelio ar i bobol yr ardal chwilio amdani gan edrych ymhobman a rhoi gwybod am y pethau lleia’.

Y manylion


Car Catherine Gowing (llun trwy law'r heddlu)
Dyma’r disgrifiad o’r car: Renault Clio porffor neu liw eirin, gyda rhif o Iwerddon – 00-D-99970.

Dyma ddisgrifiad o ddillad Catherine Gowing: Jîns glas, siaced ‘fleece’ frown golau gyda phaneli gwyn ar yr ysgwyddau a’r ochr, sgidiau du plaen. Roedd ei gwallt brown wedi’i glymu ar ei phen ac roedd ganddi fag brown – fel bag cyfrwy – dros ei hysgwydd a’i chorff ac roedd yn cario bag Asda a bocs pizza.