Mae prif was sifil newydd Cymru’n honni bod y Llywodraeth eisoes wedi gweithredu i wella’i ffyrdd o reoli grantiau.

Ond mae rhagor i’w wneud, meddai Derek Jones, yn sgil sgandal gyllido’r corff lleiafrifoedd AWEMA a datganiad ddoe gan Ddirprwy Archwiliwr Cyffredinol Cymr.

Fe ddywedodd Anthony Barrett fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chymryd sylw o rybuddion ynglŷn â grantiau tros gyfnod o ddeng mlynedd.

Gweithredu

Yn ôl Derek Jones, sydd newydd ddod i swydd y Prif Ysgrifennydd, roedd camau wedi eu cymryd yn ôl yn 2010, trwy greu Prosiect Rheoli Grantiau a hwnnw’n cynnwys Canolfan Ragoriaeth i ddatblygu prosesau, trefniadau gweithio, cyngor a deunyddiau eraill.

Mae’r Prosiect yn ymwneud â grantiau pan na fydd unigolion neu fudiadau wedi gorfod mynd trwy broses ‘gaffael’ a gorfod cystadlu am yr arian yn erbyn eraill.

“Rydyn ni eisoes wedi gosod sylfeini cadarn, ond fel Ysgrifennydd Parhaol newydd rwy’n benderfynol o sicrhau y byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwn,” meddai Derek Jones.