Mae llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gydraddoldeb wedi beirniadu’r Llywodraeth am beidio ymateb yn ddigonol i adroddiad beirniadol am berthynas y Llywodraeth ac AWEMA.

Dywed Peter Black fod y Llywodraeth wedi “trin pobol Cymru gyda dirmyg” trwy beidio siarad yn gyhoeddus am yr adroddiad.

Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud fod rheolaeth Llywodraeth Cymru o arian grant i AWEMA “yn wan.”

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn bwriadu cynnal ymchwiliad.

‘Haeddu esboniad’

Dywed Peter Black fod angen atebion.

“Mae’r cyfrifoldeb yn sefyll gyda gweinidogion etholedig,” meddai.

“Dangosodd dau adroddiad yn 2003 a 2007 fod problemau, ond ni fydd yr un gweinidog yn cymryd cyfrifoldeb.

“Er gwaethaf diddordeb mawr gan y cyhoedd a’r cyfryngau, mae gweinidogion yn meddwl eu bod nhw’n gallu llithro allan o gymryd cyfrifoldeb.

“Mae Llafur wedi cuddio tu ôl amryw o adroddiadau fel esgus i beidio gwneud sylw. Nid yw Aelodau Cynulliad wedi derbyn yr un datganiad gan unrhyw Weinidog Llywodraeth ers i’r adroddiad gael ei ryddhau,” meddai Peter Black.

“Mae pobol Cymru yn haeddu esboniad pam fod £7m wedi ei daflu at fudiad oedd yn amlwg yn afradlon iawn gydag arian cyhoeddus.”

Y bore ma dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth fod “Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r gwersi a ddysgwyd yn yr adroddiad a bydd y rhain yn adeiladu ar ein gwaith o wella rheolaeth rhaglenni grant.”