Christopher Stevens
Roedd  llysgenhadaeth America yn Benghazi yn cael ei diogelu gan gwmni o gefn gwlad Sir Gaerfyrddin pan gafodd y llysgennad yno ei ladd, yn ôl asiantaeth Reuters.

Roedd Christopher Stevens yn un o bedwar o Americanwyr a gafodd eu lladd fel rhan o brotest yn erbyn ffilm o America oedd yn pardduo’r proffwyd Mohamed.

Mae Reuters yn adrodd fod Blue Mountain, sy’n gwmni o Langain ger Caerfyrddin,  wedi recriwtio 20 o bobol i ddiogelu’r safle a bod nifer ohonyn nhw wedi dweud nad oedd arfau na hyfforddiant digonol ganddyn nhw.

Cysylltodd Golwg360 gyda Blue Mountain ond nid oedd llefarydd am wneud sylw am yr honiadau nac ar natur gwaith y cwmni.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Eric Nordstrom, cyn-swyddog diogelwch rhanbarthol America yn Libya, fod America’n ffafrio rhoi cytundebau diogelwch i gwmnïau yn Benghazi am nad oedden nhw’n gwybod am ba hyd oedden nhw’n mynd i fod yn y wlad.

Yn ôl cyn-asiant diogelwch diplomataidd, Fred Burton, roedd hi’n debygol fod Blue Mountain wedi cael y cytundeb i ddiogelu’r llysgenhadaeth am eu bod nhw’n gweithio yn Libya yn barod.

Blue Mountain

Yn ôl gwefan Blue Mountain mae’r cwmni’n darparu gwasanaeth diogelwch a hefyd cyrsiau hyfforddiant ar gyfer delio gyda bygythiadau megis herwgipio a môr-ladrata, ynghyd â chyrsiau cymorth cyntaf a gyrru ceir.

Daw enw’r cwmni o gerdd sydd wedi ei hysgrifennu ar dŵr cloc pencadlys yr SAS yn Henffordd.