Jennifer Jones
Fe all mam oedd wedi herio gorchymyn yr Uchel Lys i ddychwelyd ei phlant at eu tad yn Sbaen, wynebu cyfnod yn y carchar, dywedodd barnwr heddiw.

Dywedodd Mr Ustus Roderic Wood y byddai’n cyfeirio’r achos at y Twrne Cyffredinol Dominic Grieve i ystyried cyhuddiad o ddirmyg llys yn erbyn Jennifer Jones, 45, o Lanelli, Sir Gaerfyrddin.

Roedd y barnwr wedi gofyn am help y cyhoedd i ddod o hyd i Jennifer Jones a’i phedwar plentyn – sydd rhwng 8 ac 14 oed – ar ôl iddyn nhw ddiflannu yn gynharach yr wythnos hon. Cafwyd hyd iddyn nhw’n ddiogel yn y Coed Duon yng Ngwent ddoe.

Cafodd Jennifer Jones a’i phartner, yr adeiladwr John Williams, 48, o Lanelli eu harestio ar ôl i’r heddlu eu darganfod ddoe.

Mae Jennifer Jones wedi bod ynghanol ffrae gyfreithiol gyda’i chyn-wr, Tomas Palacin Cambra, 52, sy’n byw yn Sbaen.

Ar ôl iddi ymddangos yn y gwrandawiad yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw cafodd Jennifer Jones ei rhyddhau ond dywedodd y barnwr y gallai wynebu cyfnod dan glo am herio gorchymyn llys i ddychwelyd y plant i ofal eu tad.

Mae John  Williams wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.