Mae achos newydd o glefyd y Llengfilwyr yn ardal Caerfyrddin, gan olygu bod pump o bobl yn yr ardal bellach yn dioddef o’r clefyd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Adran Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymchwilio i’r achosion.
Mae’r pum achos yn gysylltiedig â Chaerfyrddin ac maen nhw i gyd wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty o ganlyniad i’w salwch, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r Adran Iechyd Amgylcheddol a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau i chwilio am darddiad y clefyd, gan gymryd profion o ffynonellau posib yn y dref.
Ceisio darganfod y ffynhonnell
Mae pobl yn cael eu heintio drwy anadlu diferion o ddŵr o ffynonellau llygredig ac nid yw’r clefyd yn cael ei basio o berson i berson.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oes amheuaeth mai cyflenwad dŵr yfed Caerfyrddin yw’r ffynhonnell, a does dim cysylltiad rhwng yr achosion ac adroddiadau am facteria legionella mewn samplau dŵr gafodd eu cymryd o Ysbyty Llandrindod ym Mhowys.
Dylai unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn ardal Caerfyrddin ac sydd â symptomau tebyg i glefyd y Llengfilwyr gysylltu â’u meddyg teulu.
Mae’r symptomau’n cynnwys diffyg anadl, poen yn y frest, peswch sych, twymyn, poenau yn y cyhyrau ac weithiau chwydu a dolur rhydd.
Fe all clefyd y Llengfilwyr arwain at niwmonia ac fe all fod yn angheuol.
‘Risg’
Dywedodd Dr Mac Walapu, ymgynghorydd clefydau heintus Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn parhau i holi’r bobl sydd wedi bod yn sâl ynglŷn â’u symudiadau er mwyn ceisio darganfod ffynhonnell y salwch.
“Mae’n bwysig nodi bod Clefyd y Llengfilwyr yn anghyffredin iawn, a dyw’r rhan fwyaf o bobl sy’n dod i gysylltiad â’r bacteria ddim yn mynd yn sâl.”
Ond fe rybuddiodd bod pobl dros 50 oed, yn enwedig dynion ac ysmygwyr, yn wynebu’r risg fwyaf.