Mae Llywodraeth Prydain wedi penodi dau aelod newydd i Awdurdod S4C.

Y ddau yw Aled Eirug, a fu’n bennaeth newyddion BBC Cymru ac yn gynghorydd cyfansoddiadol i Lywydd y Cynulliad, a Dr Carol Bell, sy’n gweithio yn y sector ariannol ac ynni.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, y bydd yr Awdurdod yn “elwa ar yr ystod eang a chyfoethog o brofiad a sgiliau sydd ganddyn nhw.”

“Fe fydd ganddyn nhw gyfraniad pwysig i’w wneud i’r gwaith o sicrhau fod S4C yn darparu gwasanaeth cofiadwy a chyfoes yn y cyfnod sydd o’n blaenau,” meddai.

Mae Awdurdod S4C yn gorff annibynnol sy’n cadw llygad ar reolaeth y sianel.