T Llew Jones
Ar ddiwrnod pen-blwydd T Llew Jones mae cronfa goffa’r awdur yn cynnal cystadleuaeth i ddod o hyd i nofelau a fydd yn “deilwng o enw T Llew Jones.”

Roedd Cronfa Goffa T Llew Jones wedi bod yn ystyried sut i ddathlu gwaith yr awdur o ddyffryn Teifi,  a dywedodd cadeirydd y gronfa, Owenna Davies, ei bod hi’n “naturiol i ni feddwl am hybu maes llyfrau plant a oedd mor bwysig yng ngolwg T Llew ei hunan.”

“Roedd bob amser yn pwysleisio mai ysgrifennu ar gyfer y darllenwyr ifanc oedd ei fwriad ac mai drwy stori dda, anturus oedd modd cael gafael yn nychymyg y plant,” meddai Owenna Davies.

Nod y gystadleuaeth yw cynhyrchu llyfrau Cymraeg i blant 10-12 oed, ac mae gwobr o £300 ar gael i’r bennod gyntaf a’r crynodeb mwyaf addawol, a’r cyfle i dderbyn comisiwn o £2,000 gan Gyngor Llyfrau Cymru er mwyn datblygu’r nofel.

Mae mwy o wybodaeth ar www.tllewjones.com

Dathliadau

Mae plant ysgol ledled Cymru yn dathlu pen-blwydd T Llew Jones heddiw ac yn cael eu hannog i wisgo fel rhai o gymeriadau’r awdur megis Twm Siôn Cati, Twm Carnabwth, Siôn Cwilt a Tim Boswell.

Mae rhai o ddisgyblion Ceredigion yn teithio i Pentre Bach, Blaenpennal er mwyn clywed straeon a cherddi T Llew.

Ar nos Wener cynhelir Cyngerdd y Cerddi yn ysgol Gynradd T Llew Jones, Brynhoffnant.   Bydd beirdd megis Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Idris Reynolds yn darllen o gerddi a rhyddiaith T Llew Jones, a bydd telynorion, dawnswyr a pharti canu yn diddanu.

“Byddwn hefyd yn mentro arloesi ar y noson gyda darnau o ddawns yn seiliedig ar y cerddi ac yn recordio a darlledu ar y we er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach,” meddai Owenna Davies.

Gellir darllen rhagor o gyfweliad Owenna Davies yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.