Mae cyhoeddiad S4C am fanylion sioe Nadolig flynyddol Cyw eleni wedi cythruddo nifer o rieni.

Cyhoeddwyd ddoe mai ‘Seren Nadolig Cyw’ fyddai enw’r sioe eleni, a’i bod yn ymweld â deg o leoliadau ledled Cymru. Ond, yn wahanol i’r arfer bydd dim cyfle i rieni fynd i’r sioeau gyda’u plant eleni – yn hytrach bydd rhaid i blant fynd i’r sioeau gyda’u hysgolion cynradd a grwpiau neu ysgolion meithrin.

Mae hyn wedi siomi nifer o rieni oedd yn edrych ymlaen at gael mynd i weld y sioe gyda’u plant fel teulu.

Methu allan

Un o’r rhieni sy’n anhapus â’r trefniant newydd ydy Dylan Evans o Gaerdydd. “Dio’m yn iawn – os nad ydy plentyn mewn ysgol feithrin neu ysgol maen nhw’n mynd i fethu allan,” meddai Dylan Evans wrth Golwg360.

“Maen nhw’n methu eu cynulleidfa darged fel hyn – cynulleidfa Cyw ydy’r plant sydd adra efo rhiant neu nain neu daid. Dydyn nhw ddim yn gwylio Cyw yn Cylch Meithrin.”

Toriadau

Mae S4C yn dweud bod rhaid newid y drefn o ganlyniad i doriadau cyllid y sianel, ond mae Dylan Evans yn credu bod Cyw yn cynhyrchu incwm sylweddol i S4C. “Faint o bres ydan ni’n gwario ar nwyddau Cyw yn yr Eisteddfodau ac ati – mae’r tŷ acw, a thai nifer o’n ffrindiau ni’n llawn o bethau Cyw.

“Maen nhw’n codi am docynnau felly mae incwm o’r sioe hefyd. Maen nhw’n codi £5 am docyn, ond fyswn i a phobol arall yn fodlon talu mwy na hynny gan ei bod hi’n sioe mor dda. “Be dwi ddim yn deall ydy pam nad ydyn nhw’n cynnal ambell sioe agored anferth yn rhywle fel Canolfan y Mileniwm? Byddai’r lle’n llawn a byddai hynny’n helpu efo’r costau llwyfannu.”

Cwmni Mr Producer, cwmni digwyddiadau Stifyn Parri, sy’n trefnu’r sioe a’r daith ar ran S4C eleni. “Dwi wedi gyrru neges Twitter i Stifyn Parri i ofyn pam bod nhw wedi newid y drefn fel hyn, ond hen gael ateb eto” meddai Dylan Evans.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffîld Lloyd Lewis: “Mae gan S4C sylweddol llai o arian yn sgil y toriadau i’n cyllideb ni.  Gyda hynny mewn golwg, roedd angen i ni newid fformat Sioe Nadolig Cyw i sicrhau bod modd ei chynnal o fewn y gyllideb sydd ar gael.

“Dan ni’n cydnabod bod nifer o rieni’n siomedig bod angen newid y fformat – ond dan ni wedi mynd ati i wneud hynny mewn ffordd sy’n galluogi cymaint â phosib o blant Cymru i weld y sioe eleni.”

Manylion llawn y daith:

Llun, 26 Tachwedd, Ysgol Uwchradd y Drenewydd Sioeau am 9.45am, 11.15am Mawrth,

27 Tachwedd, Ysgol y Gader, Dolgellau Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm Mercher,

28 Tachwedd, Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm Iau,

29 Tachwedd, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm Gwener,

30 Tachwedd, Ysgol Gyfun Dinas Brân, Llangollen Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm Llun,

3 Rhagfyr, Ysgol Uwchradd Llanedeyrn. Caerdydd Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm Mawrth,

4 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Abertawe Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm Mercher,

5 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Y Coed Duon Sioeau am 09.45am, 11.15am. Iau,

6 Rhagfyr, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm Gwener

7 Rhagfyr, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Aberteifi Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm