Mae’r gantores o Gaerdydd, Charlotte Church, yn dweud ei bod wedi cael cyfarfod llwyddiannus gyda Phrif Weinidog Prydain i drafod rheolaeth tros y wasg.

Roedd hi ac ymgyrchwyr eraill wedi mynnu cyfarfod gyda David Cameron ar ôl iddo awgrymu nad oedd angen cyfraith newydd i reoli’r cyfryngau.

Roedd y grŵp Hacked Off yn flin am fod y sylwadau wedi dod cyn cyhoeddi Adroddiad Leveson i sgandal yr hacio ffonau.

‘Angen rheolaeth orfodol’

Yn ôl Charlotte Church, dyw rheolaeth wirfoddol gan y wasg ei hun ddim yn ddigon ond roedd hi’n pwysleisio nad oedd eisiau cyfyngu ar ryddid y wasg.

“Mae hwn yn gyfle ardderchog i gael gwasg fwy rhydd a gwasg lawer gwell[MSOffice1] ,” meddai wrth Radio Wales.

Roedd yn dweud bod chwech ymchwiliad wedi bod i’r maes ers 1947 ond bod y wasg bob tro wedi llwyddo i berswadio’r llywodraeth i beidio â chael cyfyngiadau gorfodol.

Meddai Charlotte Church

“Dyw e ddim yn ymwneud â chyfyngu ar ryddid y wasg,” meddai Charlotte Church. “Dw i’n credu’n llawn yn hynny.

“Mae hyn yn fwy na dim ond hacio ffonau, mae’n broblem llawer ehangach.

“Dyw hyn ddim ynglŷn â selebs, mae ynglŷn â llawer o deuluoedd sydd wedi cael eu dal ym myd y wasg.”


[MSOffice1]édd