Mae gwyddonwyr yn Surrey wedi dyfeisio prawf newydd fel bod modd gwahaniaethu rhwng gwartheg sydd wedi eu heintio â’r diciâu a’r rheini sydd wedi cael eu brechu.

Gallai hynny olygu na fyddai angen difa moch daear mewn ymgais i atal yr haint.

Mae brechu gwartheg yn erbyn y gyfraith yn Ewrop ers 1978 gan na fu ffordd hyd yn hyn o wahaniaethu rhwng y ddau gategori o wartheg.

Yr Athro Glyn Hewinson o’r Asiantaeth Labordai Milfeddygon sydd wedi dyfeisio’r prawf newydd a allai olygu y byddai modd i Lywodraeth Cymru ddwyn pwysau ar yr Undeb Ewropeaidd i newid y gyfraith er mwyn brechu gwartheg yn erbyn y diciâu.

Mae Prif Filfeddyg Llywodraeth Prydain, Nigel Gibbens wedi dweud y gallai gymryd blynyddoedd cyn i’r prawf fod ar gael.

Mae’r broses o ddifa moch daear eisoes wedi dechrau yng ngorllewin Lloegr.

Mae’r llywodraeth hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno brechiad ceg ar gyfer moch daear.

Ni fyddai  angen dal moch daear mewn cewyll er mwyn cyflwyno’r driniaeth hon.

Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi brechu 930 o foch daear ar ôl gwyrdroi penderfyniad y llywodraeth flaenorol i ddifa moch daear yn Sir Benfro a Cheredigion.