Jimmy Savile
Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC George Entwistle wedi dweud yr hoffai “ymddiheuro ar ran y sefydliad” yn dilyn honiadau bod y cyn gyflwynydd a DJ Syr Jimmy Savile wedi cam-drin merched ifainc yn rhywiol.
Mae George Entwistle hefyd wedi cadarnhau y bydd y BBC yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau ar ôl i ymchwiliad yr heddlu ddod i ben.
Daeth ei gyhoeddiad ddiwrnod yn unig ar ôl i’r Prif Weinidog David Cameron alw am ymchwiliad llawn i’r honiadau.
Mae nifer o honiadau yn erbyn Jimmy Savile wedi cael eu gwneud yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda merched yn honni eu bod wedi cael eu camdrin gan y DJ pan oedan nhw yn eu harddegau.
Dywedodd David Cameron y dylai’r BBC – oedd yn cyflogi Jimmy Savile ar y pryd – ymchwilio i’r honiadau, yn ogystal â’r heddlu.
Mae’r heddlu wedi bod yn cysylltu gyda’r rhai sydd wedi gwneud honiadau yn erbyn Jimmy Savile, fu farw’r llynedd.