Marl Bridger
Fe griodd Mark Bridger wrth iddo ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth heddiw ar gyhuddiad o gipio a llofruddio April Jones.

Safodd y cyn achubwr bywyd, 46 oed, wrth i’r cyhuddiadau yn ei erbyn gael eu darllen.

Yn ogystal â chyhuddiad o gipio a llofruddio’r ferch 5 oed, mae Bridger hefyd wedi ei gyhuddo o gael gwared â chorff April, neu guddio ei chorff gyda’r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Roedd Bridger yn crio wrth iddo gadarnhau ei enw, ei oedran a’i gyfeiriad, sef ffermdy Mount Pleasant ym mhentref Ceinws. Roedd hefyd wedi cadarnhau ei fod yn deall y cyhuddiadau yn ei erbyn yn ystod y gwrandawiad byr.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.

Cafodd April ei gweld y tro diwethaf ger ei chartref ar stad Bryn-y-Gog ym Machynlleth nos Lun diwethaf.

Cafodd Bridger ei arestio’r diwrnod canlynol.

Roedd nifer o bobl tu allan i’r llys yn aros i Bridger gyrraedd.