Bu farw dyn neithiwr mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Nolgellau.

Roedd y dyn 87 oed yn byw ym Machynlleth ac yn gymydog i April Jones a’i theulu.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar gyffordd yr A470 a’r A494 am 8.30 nos Sul, ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i dystion gysylltu â nhw drwy ffonio 101.