Mae proffwydi’r tywydd yn rhybuddio y gallai glaw trwm syrthio ar Gymru gan achosi llifogydd.

Bu i rhwng 15-20mm o law syrthio dros nos, ac mae disgwyl mwy o law yn hwyrach heddiw, a hyd at 30mm o law wedi syrthio erbyn ddydd Sadwrn.

Mae rhybudd o dywydd garw wedi ei roi gan Swyddfa’r Met ar gyfer Cymru a chanolbarth a de-orllewin Cymru.

“Fe ddylai’r cyhoedd fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd y bydd tarfu ar deithio oherwydd llifogydd lleol,” meddai Nick Prebble ar ran adran dywydd y Press Association.