Mae adolygiad ar ddyfodol taflegrau niwclear Trident yn argymell eu “cloi nhw mewn cwpwrdd” tan fod eu hangen nhw.
Mae disgwyl i’r adolygiad newydd argymell israddio’r rhaglen Trident a sefydlu system newydd o longau tanfor fydd yn cario arfau niwclear.
Y Democrat Rhyddfrydol a chyn-weinidog amddiffyn Syr Nick Harvey a fu’n arwain yr adolygiad tan i’r cabinet gael ei ad-drefnu, a dywedodd fod y byd wedi newid ac nad yw ymosodiad niwclear yn cael ei ystyried gan strategwyr Prydain yn fygythiad credadwy o’r haen uchaf bellach.
Mae llongau tanfor a thaflegrau Trident yn cael eu tynnu allan o wasanaeth yn 2028 a dywedodd Nick Harvey y dylai’r rhaglen a fydd yn cymryd lle Trident “roi’r taflegrau mewn cwpwrdd” a’u tynnu nhw allan ar adeg pan mae tensiwn gyda gwlad arall yn codi.
Dywedodd nad yw hi’n gwneud synnwyr i gynnal y polisi presennol o gael o leiaf un llong danfor niwclear yn hwylio bob awr o’r dydd.
Aberdaugleddau a Barrow in Furness
Ym mis Mehefin dywedodd Carwyn Jones fod “mwy na chroeso” i longau tanfor niwclear Prydain gael eu cadw yn Aberdaugleddau am y byddai hynny’n creu swyddi yn lleol.
Mae Plaid Genedlaethol yr Alban wedi dweud y byddan nhw’n cael gwared â’r llynges danfor o aber yr afon Clyde os caiff yr Alban annibyniaeth.
Mae Aelod Seneddol Llafur Barrow in Furness, John Woodcock, wedi beirniadu’r Democratiaid Rhyddfrydol am alw am israddio Trident am y byddai hynny’n cael effaith ar swyddi yn Barrow, ble byddai’r llongau tanfor yn cael eu hadeiladu.
Mewn ymateb dywedodd Syr Nick Harvey mai nid creu swyddi i Barrow yw bwriad arfau niwclear.
“Mae’r syniad y dylwch chi greu arfau sy’n gallu creu dinistr eang dim ond er mwyn cadw 1,500 o swyddi yn iard longau Barrow yn hurt,” meddai.
“Gallwn ni roi cwpwl o filiynau o bunnau iddyn nhw a’u hanfon nhw i fyw yn y Bahamas a byddai’r byd yn lle gwell, a baswn ni wedi arbed lot o arian,” meddai Harvey, oedd wedi dweud ei fod am dynnu Prydain lawr yr ysgol niwclear.
Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, a Democrat Rhyddfrydol arall, Danny Alexander, sydd bellach yn arwain yr adolygiad i raglen Trident.