Mae tocyn Loteri buddugol, a gafodd ei brynu yng ngogledd Cymru ac sy’n werth £6.3 miliwn, heb gael ei hawlio eto.

Prynodd y darpar-filiwnydd y tocyn rhywle yng Ngwynedd ac Ynys Môn ar gyfer loteri nos Sadwrn Medi 8, gan ddewis y chwe rhif buddugol – 8, 15, 21, 26, 28, 32.

Dywedodd llefarydd ar ran y Loteri Genedlaethol fod y siampên ar rew tan fod yr enillydd yn hawlio’r wobr ariannol fawr.

“Rydym ni’n annog pawb i checio’u hen docynnau ac i edrych ym mhocedi dillad, mewn waledi a bagiau, a lawr cefn y soffa,” meddai llefarydd ar ran y Loteri.

“Gall rhywun fod yn eistedd ar ffortiwn, yn llythrennol.”

Mae gan yr enillydd tan Ddydd Iau, 7 Mawrth 2013 i hawlio’r wobr, fel arall bydd yr arian yn mynd at achosion da.