Mae ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi drwy gais rhyddid gwybodaeth yn dangos bod 50,000 o lawdriniaethau wedi cael eu canslo mewn ysbytai yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cafodd y cais ei gyflwyno gan Blaid Cymru.

27,401 o driniaethau a gafodd eu canslo yn 2011-12, o’u cymharu â 27,226 yn y flwyddyn flaenorol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sydd â’r nifer uchaf o driniaethau wedi eu canslo.

Roedd y nifer wedi codi yn awdurdodau Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr a Phowys.

Ond roedd y nifer wedi gostwng yn Abertawe Bro Morgannwg, Cwm Taf a Hywel Dda.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones: “Mae’r cynnydd yn nifer y triniaethau a ganslwyd yng Nghaerdydd a’r Fro yn arwydd i fyrddau iechyd eraill nad yw canoli gwasanaethau yn datrys eich holl broblemau.

“Mae gwasanaethau Caerdydd eisoes wedi canoli ei gwasanaethau yn yr Ysbyty Athrofaol, ac y mae gan yr ysbyty enw da sy’n denu pobl o bob cwr o’r byd i weithio yno. All Llafur ddim beio diffyg staff na chyflunio gwasanaethau am y camreoli sylfaenol hwn.”

Dywedodd bod Llafur wedi “esgeuluso’r” gwasanaeth iechyd dros y flwyddyn a aeth heibio.

‘Camarweiniol’

Mae nifer o resymau wedi cael eu cynnig dros ganslo llawdriniaethau, gan gynnwys rhesymau clinigol, cleifion yn canslo eu hunain, diffyg staff theatr oherwydd gwyliau, camgymeriadau gweinyddol a diffygion yn y cyfarpar.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths: “Fel arfer, mae Plaid Cymru yn gweld y ffeithiau mewn ffordd or-syml a chamarweiniol ar bwrpas, er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol rhad mewn ymgyrch ar gyfer isetholiad yn San Steffan.
“Y gwir yw, yn y cyfnod rhwng Ebrill 2011 a Ionawr 2012, cafodd mwy na 220,000 o lawdriniaethau eu cyflawni ledled Cymru. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 23,151 eu canslo. Ymhlith y rhain, cafodd 9,127 eu canslo gan y cleifion eu hunain a chafodd 7,237 eu canslo gan yr ysbyty am resymau clinigol cyfiawn a phroffesiynol.

“Yn syml iawn, mae’n bathetig bod Plaid Cymru nawr yn ceisio gwneud elw gwleidyddol ar gefn penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan glinigwyr a chleifion.

“Ers yr etholiad diwethaf yn 2010-2011, mae nifer y llawdriniaethau sydd wedi cael eu canslo wedi lleihau o 5.5% o 24,500 i 23,151. Mae hyn yn gynnydd go iawn, gan gyflwyno canlyniadau go iawn.”