Mae un o gwmniau archfarchnad mwyaf  Prydain wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn gostwng prisiau tanwydd.

Dywed Asda y bydd yn torri 3c y litr o brisiau petrol gan gadw’r pris yn 135.7c am betrol a 139.7 am ddisel.

Yn gynharach eleni roedd y Swyddfa Masnachu Teg (OFT) wedi cynnal adolygiad i weld a oedd gostyngiad mewn prisiau olew yn cael eu pasio mlaen i fodurwyr.