Golygfa o lwybr Sir Benfro (Donar Reiskoffer CCA 3.0)
Fe fydd agor hanner milltir o lwybr cyhoeddus heddiw yn gam pwysig at ddatblygu llwybr hyd holl arfordir Cymru.

Fe fydd y Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, yn mynd i Landudoch ger Aberteifi i agor darn o lwybr a phont fechan sy’n cysylltu llwybrau Sir Benfro a Cheredigion.

Fe fydd hynny’n golygu ei bod yn bosib cerdded 250 milltir yn ddi-dor o Amroth yn y de i Ynyslas ger Borth tua’r gogledd.

Mae hefyd yn gam pwysig at greu llwybr hyd holl arfordir Cymru – y nod yw cwblhau honno erbyn haf y flwyddyn nesa’.

‘Er lles’

Fe fydd Jane Davidson yn pwysleisio bod y llwybr er lles iechyd a hamdden pobol leol yn ogystal ag ymwelwyr.

Ac mae arweinydd Cyngor Ceredigion, Keith Evans, wedi pwysleisio’r effaith economaidd, gyda’r gobaith y bydd Ceredigion yn rhannu llwyddiant llwybr Sir Benfro.

“Mae nifer y cerddwyr hyd yr arfordir yn cynyddu ac mae’r llwybr yn ased o bwys sy’n helpu i gynnal ac adfywio economi Ceredigion,” meddai.

“Yn ogystal â bod yn ddolen rhwng y ddwy gymuned, mae datblygu’r llwybr yn Aberteifi a Llandudoch hefyd yn gam pwysig yn natblygiad Llwybr Arfordir Cymru.”