Mae dyn 55 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron Ynadon Caergybi heddiw i wynebu cyhuddiadau o geisio llofruddio dyn ac o ymosodiad corfforol difrifol ar ddynes mewn digwyddiad yn Llanfairpwll, Ynys Môn.

Fe fydd Keith Williams yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 1 Hydref.

Cafodd y dyn a’r ddynes eu trywanu yng  ngarej Ty’n Lôn yn Llanfairpwll tua 10yh nos Fawrth.

Cafodd y ddynes, sydd yn ei 50au, anafiadau i’w brest ond cafodd ei rhyddhau o’r ysbyty ar ôl cael triniaeth.

Cafodd y dyn, sydd hefyd yn ei 50au, anafiadau difrifol ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf. Bu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth brys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac mae bellach mewn cyflwr sefydlog.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion i’r  digwyddiad.