Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ymchwilio i bedwerydd achos o Glefyd y Llengfilwyr yng Nghaerfyrddin.

Mae gan bob un o’r achosion gysylltiadau â Chaerfyrddin.  Mae nhw i gyd wedi cael triniaeth yn yr  ysbyty o ganlyniad i’w salwch ond maen nhw wedi cael eu rhyddhau erbyn hyn.

Mae’r ymchwiliad i’r ffynhonnell bosibl yn parhau.  Mae’r wybodaeth wedi cael ei dosbarthu i feddygon teulu ac ysbytai yn yr ardal er mwyn eu cynghori i fod yn ymwybodol o symptomau Clefyd y Llengfilwyr.  Mae’r clefyd yn cael ei ddal trwy anadlu dafnau o ffynonellau dŵr halogedig. Ni ellir ei ddal oddi wrth berson arall.

Mae unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn ardal Caerfyrddin ac sydd â symptomau sy’n awgrymu Clefyd y Llengfilwyr yn cael eu cynghori i gysylltu â’u meddyg teulu.

Symptomau

Mae’r symptomau’n cynnwys diffyg anadl, poen yn y frest a pheswch sych, yn ogystal â gwres, cyhyrau poenus, ac weithiau chwydu a dolur rhydd.

Gall Clefyd y Llengfilwyr arwain at niwmonia a gall fod yn angheuol.

Dywedodd Dr Mac Walapu, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy i Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn dal i siarad â’r tri pherson sydd wedi bod yn sâl er mwyn cael dealltwriaeth well o’u symudiadau yn ystod y diwrnodau cyn iddynt fynd yn sâl er mwyn ceisio canfod ffynhonnell y clefyd.

“Mae’n bwysig nodi bod clefyd y Llengfilwyr yn brin iawn ac na fydd y rhan fwyaf o bobl sy’n dod i gysylltiad â’r bacteria sy’n achosi’r haint yn mynd yn sâl.  Pobl dros 50 oed, yn arbennig dynion a smygwyr, sydd fwyaf mewn perygl.”

Gall bacteria Legionella fyw ym mhob math o ddŵr ond mae ond yn peryglu iechyd pan fydd tymheredd y dŵr yn galluogi’r bacteria i ddyblygu’n gyflym.